Cymwys ar gyfer y dyfodol
Mae cymwysterau TGAU yng Nghymru yn newid
Rydym wrthi’n creu set newydd sbon o gymwysterau TGAU fydd yn gwireddu uchelgais Cwricwlwm newydd Cymru ac yn cwrdd ag anghenion dysgwyr y dyfodol. Rhwng 4 Hydref a 14 Rhagfyr rydym yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer 26 cymhwyster newydd. TGAU yn bennaf, ac ambell i gymhwyster ategol.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma.
Rydym yn hyderus y bydd cynnwys a threfniadau asesu y cymwysterau newydd hyn yn helpu ysgolion i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus ac yn paratoi dysgwyr ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith.
Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar lansio i gael trosolwg o'r cynigion TGAU drafft, sy'n rhoi gwybodaeth ar Beth a Sut y bydd dysgwyr yn cael eu hasesu o 2025.
Rydym hefyd yn cynnal cyfres o weminarau Meysydd Dysgu a Phrofiad i gefnogi’r ymgynghoriad.