Grwpiau Dysgwyr
Mae Cymwysterau Cymru’n gwneud yn siŵr bod cymwysterau yn bodloni anghenion dysgwyr ac yn hybu hyder yn y system gymwysterau.
Er mwyn ein helpu ni i wneud hyn, rydyn ni wedi sefydlu dau grŵp dysgwyr sy'n caniatáu i lais y dysgwr gael ei ymgorffori yn ein gwaith, gan ein helpu i lunio cymwysterau sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Mae aelodau ein grŵp yn grŵp ysbrydoledig o bobl sydd ag amrywiaeth amrywiol ac eang o brofiadau, ac wrth i rai adael addysg eleni, rydyn ni’n chwilio am fwy o ddysgwyr i ymuno â'n grwpiau.
Rydyn ni’n chwilio am aelodau newydd
GWNA GAIS
Ceir mwy o wybodaeth am y grwpiau dysgwyr yn ein
Pecyn Gwybodaeth Grwpiau Dysgwyr
Beth mae aelodau presennol yn ei ddweud am y grwpiau:
"Dw i wedi mwynhau fy amser, yn helpu i lunio cymwysterau ar gyfer dysgwyr y dyfodol"
"Dw i'n ddiolchgar am y cyfle, ac maen nhw wir wedi ystyried llais y dysgwr"
"Byddwn i’n argymell eich bod chi’n ymuno â'r grŵp, maen nhw (Cymwysterau Cymru) wir yn barod i wrando ar farn dysgwyr"
Grŵp Cynghori i Ddysgwyr |
Grŵp Dysgwyr Galwedigaethol/Seiliedig ar Waith |
Wyt ti rhwng 14-21 oed ac mewn addysg? Eisiau helpu i lunio dyfodol cymwysterau? Beth am ymuno â'n Grŵp Cynghori i Ddysgwyr?
|
Wyt ti dros 16 oed ac yn dilyn prentisiaeth, yn dilyn rhaglen dysgu seiliedig ar waith neu mewn addysg alwedigaethol ar hyn o bryd? Eisiau helpu i lunio dyfodol cymwysterau? Beth am ymuno â'n Grŵp Dysgu Galwedigaethol / Seiliedig ar Waith. |
Beth sy'n rhaid i mi ei wneud?
- Der gyda gwên a meddwl agored
- Bydd angen i ti fynychu o leiaf dau gyfarfod bob tymor
- Bydd angen i ti gynnig dy lais fel dysgwr a rhoi adborth mewn trafodaethau/cyfarfodydd
- Bydd angen i ti gymryd rhan mewn ceisiadau ychwanegol am adborth a chyfarfodydd ar wahân
- Bydd disgwyl i ti hyrwyddo holiaduron a newyddion Cymwysterau Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol/yn dy ganolfan
- Creu fideos byr / serennu mewn ffilmiau byr am gymwysterau
- Hyrwyddo'r cyfle ac annog mwy o bobl i ymuno â'r grwpiau.
- Rhannu adborth/sylwadau ysgrifenedig i Cymwysterau Cymru
Os oes gen ti ddiddordeb mewn ymuno ag un o'n grwpiau, gwna gais drwy ddefnyddio'r ffurflen gais, neu cysyllta â grwpdysgwyr@cymwysteraucymru.org.
Mae Rhan 1 o'r ffurflen yn gofyn i bob ymgeisydd gwblhau ei fanylion cyswllt personol.
Mae Rhan 2 yn rhoi 3 opsiwn i'w cwblhau:
- Ysgrifennu datganiad personol (dim mwy na 1,000 o eiriau)
- Anfon fideo dau funud ohonot ti dy hun
- Darparu datganiad enwebu gan athro, darlithydd, hyfforddwr gweithle neu oruchwyliwr prentisiaeth (dim mwy na 1,000 o eiriau)
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys ble i anfon dy gais ar ôl i ti ei chwblhau, ar gael ar y ffurflen.
Pob lwc! Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at glywed gen ti.