Atgyfnerthu Asesu mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant a Gwaith Chwarae
Datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer aseswyr ac aswirwyr ansawdd cymwysterau sy'n seiliedig ar gymhwysedd Lefel 2, 3 a 5 ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant a Gwaith Chwarae yng Nghymru.
Mae Cymwysterau Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Gofal Cymru, yn cynnal nifer o ddigwyddiadau datblygu'r gweithlu sydd â ffocws pendant ac sydd am ddim i aseswyr ac aswirwyr ansawdd sy'n gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (yn cynnwys gofal plant a gwaith chwarae) ledled Gymru ym mis Chwefror a Mawrth 2017.
Bydd y digwyddiadau hyn yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus aseswyr ac aswirwyr ansawdd yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol (yn cynnwys gofal plant a gwaith chwarae). Bydd y digwyddiadau yn hybu dulliau cyson ac effeithiol o baratoi dysgwyr ar gyfer cymwysterau sy'n seiliedig ar gymhwysedd ac asesu'r cymwysterau hynny.
Cynhelir saith digwyddiad a anelir at y rhai sy'n cyflwyno cymwysterau Lefel 2 a 3 a thri digwyddiad i'r rhai sy'n gweithio gyda chymwysterau ar Lefel 5. Bydd pob digwyddiad yn rhyngweithiol, gyda chyfleoedd i'r rhai sy'n bresennol ystyried:
- Asesu cychwynnol
- Cynllunio ac asesu cyfannol
- Cofnodi dyfarniadau
- Myfyrio beirniadol
Caiff y digwyddiadau hyn eu cefnogi gan Gyrff Dyfarnu ac mae unigolion sydd mewn sefyllfa i hyrwyddo'r negeseuon a gyflwynir drwy'r digwyddiadau o fewn canolfannau yn cael eu hannog i fod yn bresennol.
Nid oes cost i gyfranogwyr, ond mae presenoldeb wedi'i gyfyngu i ddau le i bob canolfan ym mhob digwyddiad.
I archebu lle, cliciwch ar y ddolen wrth ochr y digwyddiad yr hoffech ei fynychu yn y tabl isod.
Digwyddiadau Lefel 2 a 3
Dyddiad |
Lleoliad |
Archebu |
Dydd Mercher 15 Chwefror 2017 |
Wrecsam |
|
Dydd Iau 16 Chwefror 2017 |
Caerdydd |
|
Dydd Mawrth 21 Chwefror 2017 |
Caernarfon |
|
Dydd Mercher 22 Chwefror 2017 |
Abertawe |
|
Dydd Iau 23 Chwefror 2017 |
Aberystwyth |
|
Dydd Mawrth 28 Chwefror 2017 |
Caerdydd |
|
Dydd Iau 2 Mawrth 2017 |
Casnewydd |
Digwyddiadau Lefel 5
Dyddiad |
Lleoliad |
Archebu |
Dydd Mawrth 7 Mawrth 2017 |
Llanelwy |
|
Dydd Mercher 8 Mawrth 2017 |
Aberystwyth |
|
Dydd Iau 9 Mawrth 2017 |
Caerdydd |
|
Dydd Iau 16 Mawrth 2017 |
Caerdydd |