Digwyddiadau Cyflwyno TGAU Cymraeg Ail Iaith – holi ac ateb
Diolch i bawb a ddaeth i'n sesiynau cyfnos ar y cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith diwygiedig. Roeddem yn falch iawn o nifer y bobl oedd yn bresennol yn y lleoliadau ac rydym yn gwerthfawrogi'r amser a gymeroch chi i gael rhagor o wybodaeth, rhannu eich barn a chodi materion sy'n bwysig i chi.
Byddwn yn rhannu cwestiynau ac atebion o'r sesiynau gyda chi yn fuan iawn ond, yn y cyfamser, mae'r cyflwyniad PowerPoint dwyieithog a ddefnyddiwyd ar gael yma.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni yn enquiries@qualificationswales.org, neu gysylltu â CBAC, Llywodraeth Cymru neu eich Consortiwm Rhanbarthol.
Trosolwg o'r digwyddiadau
Mae Cymwysterau Cymru yn cynnal cyfres o gyfarfodydd rhanbarthol am ddim i gefnogi'r gwaith o weithredu'r TGAU Cymraeg Ail Iaith diwygiedig ym mis Medi 2017. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cynnig cyfle i athrawon pwnc ac arweinwyr ysgolion drafod y newidiadau i'r pwnc gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, CBAC, y Cosortia Rhanbarthol a Cymwysterau Cymru. Y bwriad yw rhoi dealltwriaeth well i ysgolion o'r newidiadau a'u goblygiadau er mwyn iddynt allu cynllunio'n fwy effeithiol ar gyfer mis Medi 2017.
Bydd pob digwyddiad yn rhyngweithiol, gyda llawer o gyfleoedd i'r rhai sy'n bresennol ofyn cwestiynau a thrafod y newidiadau.
Mae'r amseroedd isod yn fras.
Bydd y digwyddiad yn ddwyieithog; darperir gwasanaeth cyfieithu
Agenda'r cyfarfod
4:15pm Cofrestru a the/coffi
4:30pm Cyflwyniadau
4:35pm Cefndir i'r newidiadau - Cymwysterau Cymru
4:45pm Trosolwg o'r newidiadau i'r cymwysterau newydd - CBAC
5:10pm Y goblygiadau i ysgolion a disgwyliadau Llywodraeth Cymru yn y tymor byr, canolig a hir - Llywodraeth Cymru.
5.15 – 6pm Trafodaeth panel gyda Chonsortia Rhanbarthol, CBAC a Llywodraeth Cymru, wedi'i chadeirio gan Cymwysterau Cymru.
Dyddiad | Lleoliad | Archebu |
Dydd Iau, 12 Ionawr 2017 | Malpas Court, Casnewydd | |
Dydd Llun, 16 Ionawr 2017 | Canolfan Busnes Conwy | Tocynnau |
Dydd Mawrth, 17 Ionawr 2017 | Ysgol Alun, Yr Wyddgrug | Tocynnau |
Dydd Llun, 23 Ionawr 2017 | Gwesty Mercure, Abertawe | Tocynnau |
Dydd Iau, 26 Ionawr 2017 | Parc Dewi Sant, Caerfyrddin | Tocynnau |