Swyddi gwag cyfredol
Cyfleoedd recriwtio yn Cymwysterau Cymru.
Caiff ein holl swyddi gwag eu hysbysebu yma ac ar Twitter. Gofynnwn yn garedig i chi beidio ag anfon CVs ar hap oherwydd nad oes modd i ni eu cadw ar ffeil.
Mae ein gweithwyr yn gweithio ar sail hybrid ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu mai ein swyddfa ym Mharc Imperial, Casnewydd, NP10 8AR, yw’r ganolfan gytundebol, ond bod modd i staff weithio’n hyblyg gyda chydbwysedd rhwng y cartref a’r swyddfa.
Gellir trafod ceisiadau am batrymau gwaith eraill, gan gynnwys gwaith Rhan Amser, Rhannu Swydd a secondiadau yn y cyfweliad.
Cymwysterau Cymru yw'r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau TGAU, Safon Uwch, Bagloriaeth Cymru, a chymwysterau galwedigaethol a thechnegol. Rydyn ni yma i gynnal hyder bod y cymwysterau rydyn ni’n eu rheoleiddio yn deg, y gellir ymddiried ynddyn nhw a’u bod yn werthfawr yng Nghymru a thu hwnt.
Rheolwr Cymwysterau
Band 4 - Ystod cyflog £41,700 - £49,370 y flwyddyn
Mae gennym nifer o gyfleoedd ar gael sydd ar sail barhaol. Mae gennym hefyd un swydd wag dros gyfnod penodol o famolaeth yn ein tîm Rheoleiddio. Gallwch nodi eich dewis, neu gael eich ystyried ar gyfer unrhyw un o'r swyddi gwag Rheolwr Cymwysterau.
Byddai gennym ddiddordeb mewn ystyried ceisiadau i ymgymryd â'r swyddi hyn fel cyfle secondiad o hyd at ddwy flynedd ar gyfer pob rôl
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun 30 Ionawr – 10yb
Cyfweliad: Cynhelir y rhain ar-lein neu yn ein swyddfa yn ystod yr wythnosau sy'n dechrau 6 ac 13 Chwefror 2023.
Disgrifiad swydd llawn a sut i wneud cais.
Gallwch lawrlwytho cyngor ar sut i wneud cais.
Swyddog Cymwysterau
Band 3 - Ystod cyflog £32,460 - £39,690 y flwyddyn
Ar hyn o bryd mae gennym ddwy swydd wag ar gael ar unwaith, os byddwn yn derbyn nifer o geisiadau cryf byddwn ni’n creu rhestr wrth gefn ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun 30 Ionawr – 10yb
Cyfweliad: Cynhelir y rhain ar-lein neu yn ein swyddfa yn ystod yr wythnosau sy'n dechrau 6 ac 13 Chwefror 2023.
Disgrifiad swydd llawn a sut i wneud cais.
Gallwch lawrlwytho cyngor ar sut i wneud cais.