Cynllun Cyhoeddi
Ein hymrwymiad yw bod yn dryloyw ac yn agored ynglyn â'r gwaith a wnawn a sut y gwariwn arian cyhoeddus.
O dan adran 19(1) o'r Ddeddf Ryddid Gwybodaeth, mae'n rhaid i Cymwysterau Cymru, fel corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, fabwysiadu a chynnal cynllun cyhoeddi sy'n nodi'r dosbarthiadau o wybodaeth a gadwn, y fformat y bwriadwn gyhoeddi'r wybodaeth ynddo a ph'un a fydd tâl yn cael ei godi am y wybodaeth.
Mae Cymwysterau Cymru wedi mabwysiadu cynllun cyhoeddi cnghreifftiol yr ICO yn ffafriol, sy'n nodi'r saith dosbarth o wybodaeth a ddylai gael eu cyhoeddi gan gyrff cyhoeddus.
Mae'r tabl isod yn nodi'r saith dosbarth o wybodaeth a'r wybodaeth sydd ar gael y mae Cymwysterau Cymru yn eu cyhoeddi ym mhob dosbarth, ble i ddod o hyd i'r wybodaeth a sut i gael gafael arni.
Ni chodir tâl am wybodaeth sydd wedi ei chyhoeddi ar ein gwefan. Os oes angen copi papur o'r wybodaeth ar ein gwefan arnoch, cysylltwch â ni.
Bydd y cynllun cyhoeddi yn cael ei gynnal a'i ddiweddaru gan Cymwysterau Cymru.
Os hoffech wneud cais am wybodaeth nad yw ar gael drwy ein cynllun cyhoeddi, gallwch wneud cais Rhyddid Gwybodaeth drwy ysgrifennu at y cyfeiriad isod. Noder ei bod yn bosib na allwn ddarparu gwybodaeth os bydd wedi ei diogelu o dan y Ddeddf Diogelu Data neu drwy eithriad i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a gall ddogfennau gael eu golygu yn unol â hynny.
Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol
Cymwysterau Cymru
Adeilad Q2
Lôn Pencarn
Parc Imperial
Coedkernew
Casnewydd
NP10 8AR
enquiries@qualificationswales.org
1. Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud
Gwybodaeth am y sefydliad, lleoliadau a chysylltiadau, llywodraethu cyfansoddiadol a chyfreithiol.
|
lleoliad |
Rolau a Chyfrifoldebau |
|
Strwythur sefydliadol |
|
Gwybodaeth ynglŷn â'r ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i swyddogaethau |
Deddf Cymwysterau Cymru Fframwaith Cymwysterau Cymru |
Uwch Swyddogion ac Aelodau'r Bwrdd Rheoli |
|
Lleoliad a manylion cyswllt |
2. Beth rydym yn ei wario a sut y gwnawn hynny
Gwybodaeth ariannol yn ymwneud â'r incwm a'r gwariant arfaethedig a gwirioneddol, tendro, caffael a chontractau.
|
lleoliad |
Datganiadau ariannol, cyllidebau ac adroddiadau amrywiant |
Adroddiadau Amrywiant (wedi eu cynnwys yng Nghofnodion y Bwrdd) |
Manylion gwario dros £25,000 |
GwerthwchiGymru (tendrau dros 25,000) |
Manylion am gontractau a thendrau sy'n werth dros £10,000 |
|
Manylion am wariant y llywodraeth ar gerdyn caffael dros £500 |
|
Rhaglen gyfalaf |
|
Adolygiadau o wariant |
|
Adolygiadau archwilio ariannol |
|
Lwfansau a threuliau uwch aelodau o staff ac aelodau o'r Bwrdd |
|
Strwythurau graddio a thalu |
|
Gweithdrefnau Caffael |
|
Datganiadau ariannol ar gyfer prosiectau a digwyddiadau |
|
Rheoliadau ariannol mewnol |
3. Beth yw ein blaenoriaethau a sut rydym yn gwneud?
Gwybodaeth am strategaeth a pherfformiad, cynlluniau, asesiadau, arolygiadau ac adolygiadau.
|
lleoliad |
Cynlluniau strategol
|
Strategaeth Cymwysterau Cyffredinol |
Cynllun busnes blynyddol |
|
Adroddiad blynyddol |
|
Adolygiadau perfformiad mewnol ac allanol |
|
Adroddiadau arolygu |
|
Asesiadau o'r effaith ar breifatrwydd |
4.Sut rydym yn gwneud penderfyniadau
Cynigion a phenderfyniadau polisi. Prosesau gwneud penderfyniadau, gweithdrefnau a meini prawf mewnol, ymgynghoriadau.
Math o Ddogfen |
lleoliad |
Cynigion a phenderfyniadau polisi mawr |
|
Gwybodaeth gefndirol sy'n ymwneud â'r cynigion a'r penderfyniadau polisi mawr
|
|
Ymgynghoriadau cyhoeddus |
|
Cofnodion cyfarfodydd ar lefel uwch |
5. Polisïau a Gweithdrefnau
Protocolau ysgrifenedig cyfredol er mwyn cyflwyno ein swyddogaethau a'n cyfrifoldebau.
Math o Ddogfen |
Dogfennau/Lleoliad |
Polisïau a gweithdrefnau ar gyfer cynnal busnes adrannol |
|
Polisïau a gweithdrefnau ar gyfer darparu gwasanaethau |
|
Polisïau a gweithdrefnau ar gyfer recriwtio a chyflogi staff |
|
Rheoli cofnodion a pholisïau data personol |
6. Rhestrau a Chofrestrau
Gwybodaeth sy'n cael ei chadw mewn cofrestrau yn ôl y gyfraith a rhestrau a chofrestrau eraill sy'n ymwneud â swyddogaethau'r awdurdod.
Math o Ddogfen |
lleoliad |
CCTV
|
|
Cofnodion datgeliadau
|
|
Cofrestr o roddion a lletygarwch wedi eu darparu gan Aelodau'r Bwrdd ac Uwch Aelodau o Staff. |
7. Y gwasanaethau a gynigir
Cyngor ac arweiniad, taflenni a llyfrynnau, trafodion a datganiadau i'r cyfryngau. Disgrifiad o'r gwasanaethau a gynigir.
Math o Ddogfen |
lleoliad |
Cyfrifoldebau rheoleiddio |
|
Taflenni, llyfrynnau a chylchlythyrau |
|
Cyngor ac arweiniad |
|
Datganiadau i'r cyfryngau |