Bwrdd
Prif ddiben y Bwrdd yw sicrhau bod Cymwysterau Cymru yn bodloni gofynion ei Brif Nodau fel y’u nodwyd yn Neddf Cymwysterau Cymru 2015, a sicrhau bod ein strategaeth yn cael ei gyflenwi.
Mae Bwrdd Cymwysterau Cymru yn cynnwys y Cadeirydd, y Prif Swyddog Gweithredol a rhwng wyth a deg o aelodau. Ei rôl yw:
- Rhoi arweiniad effeithiol ar gyfer Cymwysterau Cymru; diffinio a datblygu cyfeiriad strategol, a phennu amcanion;
- Rhoi arweiniad effeithiol o ran gweithrediad y sefydliad; dwyn y Prif Swyddog Gweithredol i gyfrif am sicrhau bod gweithgareddau Cymwysterau Cymru yn cael eu cynnal mewn ffordd effeithlon ac effeithiol;
- Monitro perfformiad er mwyn sicrhau bod Cymwysterau Cymru yn cyflawni ei nodau, ei amcanion a'i dargedau perfformiad yn llawn; a
- Hyrwyddo safonau uchel mewn cyllid cyhoeddus; cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian.
Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bum gwaith y flwyddyn, ac mae ganddo Ddiwrnodau Datblygu’r Bwrdd yn ôl yr angen. Rydym yn cyhoeddi cofnodion o’n cyfarfodydd Bwrdd; maent ar gael yma.
Gwrthdaro buddiannau ymhlith aelodau'r bwrdd
Mae aelodau'r Bwrdd wedi cwblhau ffurflen datgan/gwrthdaro buddiannau/buddiant. Mae Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi rhestr o fuddiannau'r Bwrdd y gellir ei gweld yma.
Cadeirydd Cymwysterau Cymru
Mae Cadeirydd Cymwysterau Cymru, David Jones, yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am ein gweithgarwch a'r ffordd rydym yn ymddwyn ac yn arfer ein swyddogaethau statudol fel y'u nodwyd yn y Ddeddf.
Y Prif Weithredwr a'r Swyddog Cyfrifyddu
Fel Swyddog Cyfrifyddu Cymwysterau Cymru, mae'r Prif Weithredwr (Philip Blaker) yn gyfrifol yn bersonol am y canlynol:
- Gwarchod arian cyhoeddus yn briodol;
- Gweithrediadau a rheoli Cymwysterau Cymru o ddydd i ddydd;
- Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru'.